Plant Mewn Angen / Children In Need
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apel. Llwyddwyd i godi £314.02 tuag at yr apel.
Newyddion/ News
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apel. Llwyddwyd i godi £314.02 tuag at yr apel.
Ar ran cyngor yr ysgol hoffwn i ddweud diolch am ddod i'r bore coffi. Rydym yn gwerthfawrogi llawer ac rydym wedi codi £820.49 i Macmillan. Diolch am yr help!! Farhan a Jasmine
Buodd bl.1 a 2 yn amgueddfa plentyndod ac yn Teifimania ar ei ymweliad haf. Cawson amser diddorol yn edrych ar degannau ar drws y degawdau a profi sut bod mewn Ysgol yn yr hen dyddiau. Cafwyd hwyl yn Teifimanio yn dringo, neidio a chymdeithasu.
Diolch i'r R.N.L.I am ddod i siarad gyda ni am ddiogelwch a'r y traeth
Cafodd plant blwyddyn 3 modd i fyw yn ystod eu hymweliada'r amgueddfa yn Aberystwyth ar ddydd Iau y 20fed o Fai. Cafwyd gyflwyniad hwyliog dros ben i'r prosiect Cymru Ohio. Dysgoit am fywyd cyn yr ymfudiad a chawsant eu hysbrydoli i greu rhan o ddarn Celf Panorama godidog gyda Philip Huckin. Fe fydd arddangosfa yn cael ei chynnal ar Fehefin y 25ain yn neuadd Llangeitho.
Cafodd Ela Mablen eisteddfod a hanner yn Eisteddfod Cenedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.Cyrhaeddodd Ela y llwyfan mawr mewn pump cytadleuaeth! Fe gafodd dwy fedal aur am ganu cerdd dant a llefaru i flynyddoedd 3 a 4, y fedal arian am ganu unawd I flynyddoedd 3 a 4 ac yna dwy fedal efydd un am y gystadleuaeth canu gwerin i flynyddoedd 6 ac iau a’r llall am ganu deuawd gydag Eos Dafydd. Da iawn Ela a da iawn Eos!
Ar ddydd Sadwrn 12fed o Fai bu tîm pêl droed yr ysgol yn cystadlu ym mhencampwriaeth Cymru. Roedd y gobeithion yn uchel ar ôl ennill llynedd. Yn ei grŵp cafwyd gêm cyfartal yn erbyn Llanfair Caerinion ac yna curo Ysgol Bro Allta ag Ysgol Gwauncelyn i ennill y grŵp. Curwyd St Peters yn y chwarteri ac yn Bryncoch yn y rownd gyn-derfynol. Ymlaen i’r rownd derfynol unwaith eto yn erbyn Gwauncelyn. Ar ddiwedd y gêm roedd y sgôr yn gyfartal ac felly roedd yn rhaid mynd i amser euraidd ac er mawr siom, colli fu’r hanes. Llongyfarchiadau mawr i’r bechgyn am ddod yn ail yng Nghymru—Gwych.
Aelodau’r tîm :- Steffan (capten), Wil, Finlay, Ethan, Zeké, Rhys, Rhodri, Jack, Krzysztof a Dion.
Ar yr un diwrnod bu 30 o blant yr ysgol yn rhedeg yng nghystadleuaeth trawsgwlad Cymru a gwnaeth pawb eu gorau glas a perfformio’n wych. Y medalwyr oedd Martha 1af merched bl.5, Seren 3ydd merched bl.6 a Ellis 3ydd bechgyn bl.3.
Da iawn pawb a fu’n cynorthwyo’r ysgol.
Aeth 11 o blant am benwythnos i Wersyll yr Urdd Llangrannog. Mwynhaeodd pawb yn fawr iawn
Diolch i Criced Cymru am ddod i'r ysgol i roi sesiwn blasu criced i flynyddoedd 1, 2 a 3.
Diolch i Donald o Blodau'r Bedol am ddysgu ni sut i drefnu blodau. Rhanwyd y gosodiadau rhwng cartrefi Min y Mor, Penrodyn a Mrs Thomas
Aeth 31 o blant i gynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth trawsgwlad Ceredigion yr Urdd. Rhedodd pawb fel y gwynt! Y plant ddaeth yn y 10 cntaf oedd.
Bechgyn Blwyddyn 6 - Finl;ay 1af, Steffan 5ed, Ethan 7fed a Rhys 8fed.
Merched Blwyddyn 6 - Seren 2il
Merched Blwyddyn 5 - Martha 1af
Bechgyn Blwyddyn 3 - Ellis 2il
Merched Blwyddyn 3 - Mia 9fed.
Llongyfarchiadau enfawr i fechgyn yr ysgol a lwyddod i ennill cystadleuaeth pel droed 7 bob ochr yr Urdd yn Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr hefyd i'r merched a lwyddodd i ddod yn ail yn y gystadleuaeth.