Apêl Pabi / Poppy Appeal
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apêl eleni. Llwyddodd yr ysgol i godi £144.30 tuag at yr apêl.
Newyddion/ News
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apêl eleni. Llwyddodd yr ysgol i godi £144.30 tuag at yr apêl.
Eleni daeth pawb i’r ysgol mewn pyjamas a chael gwallt gwyllt. Llwyddwyd i godi £400.00 i’r apêl. Diolch i bawb a gyfrannodd.
Cafodd bl. 5 a 6 y cyfle i weld perfformaid newydd gan Arad Goch sef ‘Tu Fewn a Tu Fas’. Ar ôl y perfformiad cynhaliwyd gweithdai i’r plant yn seiliedig ar beth welwyd.
Eleni aeth 12 o ddisgyblion ati i greu Cibab ffrwythau yn rownd yr ysgol o Cogurdd. Llongyfarchiadau i Ela Mablen ar ddod yn fuddugol ac i Maisie Tuson a Ella Phillips am ddod yn gydradd ail. Diolch i chi gyd am gystadlu a gwneud ymdrech arbennig.
Llwyddod Ela i ddod yn drydydd yn rownd derfynol y Sir.
Cafodd y Dewiniaid Digidol wythnos brysur yn addysgu eu cyd-ddisgyblion. Cynhaliwyd gwasanaeth i holl ddisgyblion yr ysgol. Aeth y Dewiniaid Digidol o gwmpas y dosbarthiadau yn rhoi gwersi ar
Derbyn—defnyddio y bee-bots newydd yn y dosbarth
Blwyddyn 1—creu logo e-ddiogelwch newydd ar JIT
Blwyddyn 2—Codio e-ddiogelwch
Blwyddyn 3 a 4—Microbits
Cafodd blwyddyn 5 a 6 wersi ar seibr fwlio, pwysigrwydd o greu cyfrineiriau cryf ac hefyd e-byst sbam.
Gorffenwyd yr wythnos drwy ymweld â chartref preswyl Min y Môr i ddarparu sesiwn TGCh
Fel rhan o thema’r dosbarth meithrin a derbyn, cafwyd ymweliad cyffrous iawn gan Elin, un o gyflwynwyr Cyw. Treuliodd Elin y bore yn canu a dawnsio gyda’r plant i nifer o ganeuon Cyw. Cafwyd hefyd sesiwn stori ac bu’r plant yn mwynhau gofyn cwestiynau iddi. Aeth Elin nôl gyda llond car o luniau lliwgar.
Trefnwyd ddisgo Santes Dwynwen i’r ysgol gyfan gan aelodau’r Cyngor Ysgol a Siarter Iaith er budd gwaith yr Urdd yng Nghylch Aeron. Gwerthwyd cacennau, bisgedi a ffrwythau yn y disgo ac bu pawb yn danwsio i gerddoriaeth Cymraeg. Hefyd crewyd cardiau Santes Dwynwen gan aelodau’r cynghorau i werthu.
Diolch i bawb a gyfranodd tuag at y diwrnod.
Llongyfarchiadau i Celt a Trystan am gyflwyniad arbennig i benaethiaid y Sir ar ein defnydd o Yoga a 'Speakr' yn yr ysgol i hyrwyddo lles ein disgyblion. Trefnwyd gan Ysgolion Iach y Sir
Bu pob disgybl yn brysur iawn yn paratoi nwyddau i werthu ar y noson. Agorwyd y ffair drwy ganu carolau o gwmpas y goeden. Bu’r stondinau yn brysur dros ben yn gwerthu eu nwyddau ac roedd bwrlwm mawr yng ngroto Siôn Corn. Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo ar y noson ac i chi fel rhieni am eich cefnogaeth.
Cafodd Bl. 5 a 6 ymweliad anisgwyl gan Myrddin ap Dafydd, Archdderwydd Cymru. Bu’n sgwrsio gyda’r plant am ei ddyletswyddau fel Archdderwydd ac yn trafod arwyddocâd yr Orsedd. Aethpwyd ymlaen i gyfansoddi cerdd gyda’I gilydd. Cyn diwedd y bore cafwyd cyfle i ofyn cwestiynnau iddo. Mae pawb bellach yn edrych ymlaen yn eiddgar i ymweliad yr Eisteddfod a Cheredigion ym mis Awst.
Eleni cynhaliwyd ein Cwrdd Diolchgarwch yn yr ysgol. Casglwyd tuag at ‘Banciau Bwyd’ Ceredigion. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Diolch yn fawr iawn i Mr. a Mrs. Tarling o glwb ‘West Wales Cycling’ am ddod i’r ysgol i gynnal gweithdy beicio gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.
Diolch hefyd i Joshua Tarling cyn ddisgybl o’r ysgol am ddod i siarad gyda’r plant am eu lwyddiant yn y byd beicio.