Llwyddiant Rygbi / Rugby Success
Llongyfarchiadau i Harry Lloyd sydd wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm rygbi dan 11 Ceredigion. Pob lwc iddo
Newyddion/ News
Llongyfarchiadau i Harry Lloyd sydd wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm rygbi dan 11 Ceredigion. Pob lwc iddo
Cafodd disgyblion y dosbarth meithrin a derbyn fore wrth eu boddau wrth iddynt fynychu fferm Blaencamel. Cafwyd y cyfle i weld yr amrywiaeth o lysiau a oedd yn cael ei dyfu yno ac hefyd y cyfle i helpu i gynaeafu tomato a betys. Diolch yn fawr iawn i deulu’r Vince am y croeso ac am yr holl lysiau a chafwyd i fynd nôl i’r ysgol gyda ni.
Llongyfarchiadau mawr i Nanw Griffiths-Jones ar ei buddugoliaeth yn y cystadleuthau unawd bl.2 ac iau, cerdd dant bl.2 ac iau ac hefyd llefaru unigol bl.2 ac iau yn yr eisteddfod. Pob lwc iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Da iawn hefyd i Olwyn Horsey a Nanw Griffiths-Jones yn y gystadleuaeth Alaw Werin ac hefyd i griw yr Ymgom am eu hymdrechion ar y diwrnod. Aelodau’r Ymgom oedd Francessca Cooper, Anabelle Rogers, Jac Costello a Kai Lloyd.
Daeth pawb i’r ysgol yn gwisgo dillad melyn a glas gan roi cyfraniad tuag at gronfa dyngarol yr Wcrain. Codwyd £294 tuag at yr apêl.
Mae’r aelodau wedi bod yn brysur iawn yn creu cennin pedr yn barod ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi. Erbyn hyn maent wedi cael ei dosbarthu o amgylch busnesau’r dref. Edrychwch allan amdanynt yn ffenestri’r busnesau wrth i chi gerdded o amgylch y dref..
ddathlu Wythnos Wyddoniaeth aeth blynyddoedd 5 a 6 i Brifysgol Aberyswyth. Cafwyd bore hwylus yn ymweld ag amryw o stondinau a chael y cyfle i arbrofi.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan yn eisteddfod cylch Aeron yn ddiweddar. Braf oedd gweld cymaint o’r ysgol yn cystadlu. Canlyniadau’r dydd Unawd bl.2 ac iau—1af Nanw Griffiths-Jones, 3ydd Alaw Freeman Llefaru bl.2 ac iau—1af Nanw Griffiths-Jones, 2il Alaw Freeman Unawd bl.5 a 6—Francessca Cooper
Braf oedd gweld cymaint o’n disgyblion wedi gwisgo eu dillad traddodiadol Cymreig i’r ysgol. Cynhaliwyd ein gorymdaith Gŵyl Dewi o gwmpas Aberaeron a braf oedd gweld cymaint o bobl allan ar y stryd eleni. Cynhaliwyd amryw o weithgareddau i ddathlu’r diwrnod yn yr ysgol a chafwyd cawl blasus i ginio wedi cael ei goginio gan gogyddion yr ysgol.
Llongyfarchiadau mawr i Ela, Francessca, Kai a Jac oedd yn fuddugol yng ngwis Dim Clem, De Ceredigion. Trefnwyd gan Cered, Menter Iaith Ceredigion. Pob lwc yn y rownd nesaf.
Buodd y plant yn gwneud nifer o wahanol weithgareddau ade wythnos gwrth-fwlio
Ymunodd ein Llysgenhadon a chynrychiolwyr o'r Cyngor Ysgol y Lleng Brydeinig Frenhinol mewn gwasanaeth i gofio'r cadoediad. The School Ambassadors and representatives from the School Council joined the Royal British Legion in a service to commemorate Armistice
Y mae Mr Robert Jones yn ymddeol wedi dros 35 o flynyddoedd o wasanaeth yn Ysgol Gynradd Aberaeron. Fe fyddwn yn gweld ei eisiau yn fawr - mae wedi bod yn athro ymroddedig a theyrngar dros y blynyddoedd. Dymunwn ymddeoliad hir, hapus ac iach iddo ac rydym yn siwr o'i weld o gwmpas Aberaeron