Llaeth Gwarffynnon Milk
Diolch i Elliw o Llaeth Gwarffynnon am ddod i’r ysgol i siarad gyda disgyblion y dosbarth meithrin a derbyn am ble mae llaeth yn dod o ac hefyd am bwysigrwydd yfed llaeth.
Newyddion/ News
Diolch i Elliw o Llaeth Gwarffynnon am ddod i’r ysgol i siarad gyda disgyblion y dosbarth meithrin a derbyn am ble mae llaeth yn dod o ac hefyd am bwysigrwydd yfed llaeth.
Aeth y dosbarth Meithrin a Derbyn am daith gerdded Hydrefol o gwmpas Aberaeron yn casglu dail a mes. Cafwyd fore gwych yn defnyddio eu synhwyrau i weld, cyffwrdd, arogli a chlywed y byd o’u cwmpas.
Dathlodd disgyblion blwyddyn 2 Diwali drwy ddod i’r ysgol mewn dillad lliwgar. Coginiwyd ddanteithion Diwali er mwyn bwyta yn y prynhawn. Cafwyd y cyfle i wrando a dawnsio i gerddoriaeth a gwylio ffilm stori Rama a Sita
Aeth disgyblion blwyddyn 6 i Benmorfa i osod blodau er mwyn talu teyrnged i’r frehines.
Cafodd disgyblion blwydydn 4, 5 a 6 oedd yn dymuno gyfle i wylio arch y frenhines yn teithio o Balas Buckingham i San Steffan.
Cafodd disgyblion blwyddyn 1 a 2 gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy dawnsio Diwali. Mwynhaeodd pawb y cyfle i gael blas ar y ddawns traddodiadol.
Braf oedd gweld y plant wedi dod i’r ysgol wedi gwisgo i fyny fel môr ladron, sipsi, gwas a morwynion. Cafwyd gwasanaeth arbennig i ddechrau’r diwrnod o dan ofal blwyddyn 2 a chafwyd lu o weithgareddau trawscwricwlaidd yn y dosbarthiadau.
I ddathlu diwrnod Owain Glyndŵr, gwyliodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 berfformiad o’r sioe Owain Glwyndwr wedi ei gynhyrchu gan gwmni Mewn Cymeriad. Byddant yn defnyddio’r hyn a ddsygwyd yn eu gwaith yn y dosbarth.
Diolch yn fawr iawn i Ysgol Gyfun Aberaeron am wahodd disgyblion blwyddyn 6 i ymuno a nhw wrth ddathlu diwrnod ieithoedd Ewropiaidd. Cafwyd y cyfle i ddysgu ieithoedd gwahanol ac hefyd blasu bwydydd traddodiadol y gwledydd.
Mynychodd holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen sioe Sbridiri wedi cael ei drefnu gan Urdd Ceredigion. Cafwyd bore llawn hwyl a sbri yn canu nifer o ganeuon newydd ac adnabyddus a dawnsio gyda Siani Sionc.
Cuddiodd Seren a Sbarc carreg arbennig i bob dosbarth o gwmpas tref Aberaeron. Cafodd pob dosbarth amser wrth ei bodd yn darganfod ble oedd y garreg wedi cael ei guddio. Cafwydd hefyd nifer o weithgareddau amrywiol yn y dosbarthiadau i ddathlu’r diwrnod.
Ar ddiwrnod y Gwasanaeth Brys 2022 ymwelodd cynrychiolydd o Ambiwlans Awyr Cymru ar ysgol i roi cyflwyniad i ddisgyblion yr ysgol am waith pwysig Ambiwlans Awyr Cymru.
Llongyfarchiadau i bawb am eu hymdrechion yn y rownd ysgol o Cogurdd. Roedd y safon yn wych wrth iddynt greu ‘brechdan fendigedig’. Da iawn i Alys James a ddaeth yn fuddugol a pob lwc iddi yn y rownd rhanbarthol.