Eisteddfod Rhanbarth Offerynnol / Area Instrumental Eisteddfod
Llongyfarchiadau i Catrin Edwards ar ddod yn fuddugol ar yr Unawd Chwybrennau ar Unawd Piano Bl.6 ac Iau yn yr Eisteddfod Rhanbarth. Edrych ymlaen at y Genedlaethol nawr.
Newyddion/ News
Llongyfarchiadau i Catrin Edwards ar ddod yn fuddugol ar yr Unawd Chwybrennau ar Unawd Piano Bl.6 ac Iau yn yr Eisteddfod Rhanbarth. Edrych ymlaen at y Genedlaethol nawr.
Ennillwyr y cystadleuaeth creu poster gwrth-fwlio oedd - Lilianna, Alis, Osian a Cadi. Llongyfarchiadau mawr i chi. Da iawn i bawb arall a wnaeth cystadlu.
I ddathlu Sul y Mamau paratoiodd plant dosbarth Miss Jones te prynhawn i'w mamau/mamgu. Paratowyd cacennau hyfyrd gan y plant.
Llongyfarchiadau i Bentwr eillwyr Trawsgwlad Ysgol Gynradd Aberaeron 2018. Da iawn i bawb am redeg mor bell.
Diolch i Sara Griffiths a ddaeth i goginio llysiau maethlon blasus gyda blwyddyn 5.
Diolch i Ben Lake am gymryd amser i ddod i ymwled a Blwyddyn 1 a 2 i ateb ein cwestiynau.
Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu yn eisteddfod cylch Aeron yn Theatr Felinfach dydd Mawrth y 6ed o Fawrth. Yn y llefaru bl.2 ac iau i ddysgwyr daeth Antoni Raczynski yn 1af, Diggory Wood yn 2il a Miley Thomas yn 3ydd. Yn yr unawd bl.3 a 4 daeth Ela Mablen Griffiths-Jones yn 1af, Fflur McConnell yn 2il a Celt yn 3ydd. Yn y llefaru bl.3 a 4 daeth Ela Mablen Griffiths-Jones yn 1af a Fflur McConnell yn 2il. Yn yr unawd cerdd dant bl.3 a 4 daeth Ela Mablen Griffiths-Jones yn 1af a Fflur McConnell yn 2il. Yn yr unawd Alaw Werin bl.6 ac iau daeth Ela Mablen Griffiths-Jones yn 1af a Eos Dafydd yn 3ydd. Yn yr unawd bl.5 a 6 daeth Eos Dafydd yn 1af. Yn y llefaru bl.5 a 6 daeth Eos Dafydd yn 1af. Yn y deuawd bl.6 ac iau daeth Eos Dafydd a Ela Mablen Griffiths-Jones yn 1af. Daeth yr ymgom yn 1af, yr aelodau oedd Harley Walton, Bethany Severs, Skye Jenkins a Mari Raw-Rees. Daeth y parti deulais yn 1af ac hefyd y cor yn 1af. Llongyfarchiadau i bawb a pob lwc yn yr Eisteddfod Rhanbarth.
Cawson yr anrhydedd o gael ymweliad gan Ysgrifennyd dros Addysg y Cabinet Kirsty Williams. Cafwyd sgyrsiau diddorol. Y disgyblion a'r staff wrth eu boddau yn rhannu eu barn a'u gwaith
Cafwyd ymwleiad arbennig gan Elin Jones A.C. yn ateb amrywiaeth o gwestiynau diddorol ac yn son am ei gwaith.
Eleni aeth 16 o ddisgyblion ati igreu 'Salad Tai' yn rownd yr Ysgol o Cogurdd. Llongyfarchiadau i Jasmine Haf ar ddod yn fuddugol ac i Kaitlyn ar ddod yn ail.
Aeth 5 o ddisgyblion yr Ysgol i nofio yng ngala nofio cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd. Daeth Kaitlyn yn 2il a 5ed yn ei rasus. Daeth Finlay yn 6ed yn ei ragras. Daeth y tim cyfnewid merched yn 5ed a 9fed. Aelodau'r tim oedd Mari, Catrin, Acacia, Sophie a Kaitlyn. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd a'r lefel Cymru.
I ddathlu T.Llew Jones eleni fe wisgodd y disgyblion mewn dillad a oedd yn adlewyrchu cymeriadau llyfrau'r awdur. Cafwyd pob math o gymeriadau lliwgar. Fe wnaeth pob dosbarth weithgareddau am yr awdur a'i weithiau. Cafodd blynyddoedd 5 a 6 gweithdy gan Arad Goch i ddathlu'r achlysur.